10 Mai 2022

Elin Jones AS 
 Llywydd 
 Cadeirydd y Pwyllgor Busnes


Annwyl Lywydd                                                                    

Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Iaith Arwyddion Prydain

Gosodwyd ein hadroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain ar 25 Ebrill.

Yn ein hadroddiad, nodwn, dros Seneddau blaenorol, fod ymgyrchoedd Aelodau dros gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd mewn perthynas ag Iaith Arwyddion Prydain wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Un o'r engreifftiau cyntaf oedd datganiad barn a gyflwynwyd yn y Senedd gyntaf, ac enghraifft fwy diweddar o flwyddyn olaf y Bumed Senedd oedd dadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain.

Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ar y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain, nodwn fod Aelodau’r meinciau cefn wedi cyflwyno cynigion ar gyfer Biliau Aelod ar y pwnc. Er enghraifft, ym malot cyntaf Bil Aelod y Senedd hon, cynigiodd Mark Isherwood AS Fil gyda'r un nodau datganedig a nodwyd gan y Senedd yng Nghynnig Deddfwriaethol yr Aelod a grybwyllwyd uchod.

Yn ein hadroddiad, mynegwyd siom gennym ynghylch y ffaith nad yw cyfle i Aelod o’r meinciau cefn gyflwyno deddfwriaeth ar y pwnc pwysig hwn wedi codi. Mae hyn er gwaethaf cefnogaeth eang gan lawer o Seneddau i gyflwyno Bil o’r fath. Felly, rydym yn tynnu sylw’r Pwyllgor Busnes at hyn ac yn awgrymu ei fod yn ystyried ffyrdd o fynd i’r afael â’r broblem hon gan gynnwys o bosibl adolygiad o’r weithdrefn ar gyfer Biliau Aelod.

Yn gywir

Llun yn cynnwys testun  Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd